4 min.
Cyflwyno rhaglen sy’n dathlu'r celfyddydau
Hyd yn oed ar ôl dros ddeng mlynedd o ddysgu Cymraeg, dw i dal yn synnu, dro ar ôl tro, ar y gwahanol ffyrdd mae’r iaith wedi agor y byd i mi. Y peth mwyaf, wrth gwrs, yw’r bobol – cydweithwyr a ffrindiau sy’n golygu’r byd i mi.
Ond un peth sydd wedi bod yno ers y cychwyn cyntaf yw’r gerddoriaeth, llenyddiaeth a’r celfyddydau. Dyna oedd fy nghyflwyniad a fy nghroeso mwyaf i’r iaith. Erbyn hyn, mae Cymraeg wedi cyrraedd pob cornel o fy mywyd mewn rhyw ffordd, a dw i mor ddiolchgar amdani.
Felly, neidiais i ar y cyfle i fod yn rhan o Y Sîn: rhaglen newydd sy’n dathlu’r celfyddydau. Fel dw i’n dweud ar ddechrau pob pennod, y lle perffaith i “ddarganfod a rhyfeddu ar ddoniau creadigol pobol ifanc…