3 min.
Creaduriaid y nos
Beth sy’n digwydd yn ein gerddi wrth i ni gysgu’n braf?
Oeddech chi’n gwybod bod bron i 70% o anifeiliaid y byd yn anifeiliaid nosol? Efallai eich bod yn meddwl fod hwn yn ffigwr syfrdanol, ond meddyliwch am hyn am eiliad, ac mae’n dechrau gwneud synnwyr – mae’r ardd yn lle peryg! Tasech chi’n wyfyn neu lygoden fach, yn ddraenog neu’n llyffant, ac yn mynd allan i chwilio am fwyd, basech chi’n mentro allan i fyd sy’n llawn risg a pheryglon, fel ysglyfaethwyr eraill, ysglyfaethwyr llwglyd (a llawer mwy na chi!). Y rheswm pam mae cymaint o greaduriaid yn mentro allan gyda’r nos ydy er mwyn goroesi.
Mae gwe fwyd y nos, fel y dydd, yn dechrau gyda phlanhigion. Mae’r rhain yn cael eu bwyta gan bryfed genwair, gwlithod, malwod, gwyfynod a…