4 min.
Dewch ar daith i Seland Newydd – ‘Cymru ar steroids’
Sut dych chi’n ffansïo taith i ochr arall y byd gyda thri o Gymry enwog? Wel, mae rhaglen newydd sbon ar S4C yn mynd â chi yno!
“Cymru ar steroids” – dyna sut maen nhw’n disgrifio ein cyrchfan ar ddechrau’r gyfres tair rhan Alun, Chris a Kiri yn Seland Newydd. Dyma Seland Newydd, gyda’i mynyddoedd, afonydd, traethau, a chymeriadau diddorol.
Y tri sy’n arwain ein taith ni ydy Chris Roberts, y cogydd enwog o Gaernarfon, Kiri Pritchard-McLean, y ddigrifwraig (gydag enw cynta Maori), ac Alun Williams, y cyflwynydd teledu.
Mae’r rhaglen hon yn lot o hwyl ac mae’n cyflwyno Seland Newydd mewn ffordd ddifyr. Mae’n ddiddorol gwylio tri o Gymry yn teithio mewn gwlad sy’n ymddangos yn gyfarwydd i ni mewn llawer o ffyrdd, ond mor bell i ffwrdd ar…